10/09/2026
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy wyneb yn wyneb am ddim sydd i gyd am gefnogi cysgu eich plentyn
Hwb Lles Wrecsam | Wellbeing Hub Wrexham
Wrexham, Wales
Thursday, September 24 • 1 PM - 3 PM
Mae'r prosiect Adeiladu Gwydnwch hwn ar gyfer rhieni plant a phobl ifanc (0-25) ag anableddau neu anghenion ychwanegol sy'n byw yng Nghymru (gyda diagnosis a heb ddiagnosis). Wedi'i a***nnu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.Mae anawsterau cysgu yn gyffredin mewn plant ac yn fwy cyffredin fyth ymhlith y rhai sydd ag anghenion ychwanegol. Pan fydd plentyn yn ei chael hi'n anodd cwympo i gysgu neu aros i gysgu, gall effeithio ar lesiant y teulu cyfan.
Gweithdy pwrpasol yng Wrecsam yw hwn dan arweiniad Dr Marc Johnson o Clinical Wellness a thîm Contact Cymru, bydd y gweithdy hwn yn ymdrin â:
Deall anatomeg cwsg
Problemau cysgu cyffredin ac achosion posibl
Strategaethau ymarferol i helpu eich plentyn i wella ei gwsg
edrych ar bwysigrwydd cwsg ac awgrymiadau i gefnogi arferion nos
beth i'w wneud os yw'r broblem yn gwaethygu, neu at bwy i weld os nad oes gwelliant
Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol a bydd amser ar gyfer cwestiynau, yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth pellach.
Darperir diodydd cynnes a bwffe i bawb sy'n mynychu.
Yn anffodus, nid oes gennym gyfleusterau gofal plant, sesiwn i oedolion yn unig yw hon felly gwnewch drefniadau eraill ar gyfer gofal plant yn ystod y gweithdy.
Contact: Rydym yn Contact, elusen y DU ar gyfer teuluoedd gyda phlant anabl. Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda'r arweiniad a'r wybodaeth orau bosibl. Rydym yn dod â theuluoedd at ei gilydd i gymorth i'w gilydd.
Ac rydym yn helpu teuluoedd i ymgyrchu, gwirfoddoli a chodi a***n i wella bywydau iddynt eu hunain a phobl eraill. I gael mwy o wybodaeth a chymorth gan Contact, gallwch fynd i: www.contact.org.uk neu anfon e-bost at [email protected].