TEAM gets to know people of all ages, abilities and backgrounds, right across the country to make that happen. There’s power to be found in telling your own stories, in whatever way you want to tell them. Strong, close communities do this all the time; it’s something we’ve learnt in spades from being out there with them. TEAM is for everyone, however you’d like to get involved. For some people it’
s photography, for others, film. It might be a piece of writing, or a piece of art. It may become a performance. It may be immensely private. You choose. Our aim across all we do is to listen, learn and help people express some of Wales’ richest untold stories. Sometimes people find creative careers out of their experience with TEAM. Some channel that power back into their own lives and localities. Whatever it looks like, together we build creative communities across Wales and beyond. This page acts as an open network; a place to share opportunities, events, skills and invitations, as well as keep up to date with news from NTW TEAM and beyond. If you’ve got an idea, creative project or event that you want to share, or if you’re looking for some support from a friendly arts community, just let us know. We’re all ears.
//
Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i fod yn rhan o’r celfyddydau a’r byd creadigol. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae TEAM yn dod i ’nabod pobl o bob oed, gallu a chefndir, a hynny drwy Gymru benbaladr.
Mae grym i’w gael wrth adrodd dy straeon dy hun, ym mha bynnag ffordd rwyt ti’n dymuno’u hadrodd. Mae cymunedau cryf, clos yn gwneud hyn drwy’r amser; mae’n rhywbeth sydd wedi dod yn gwbl amlwg inni wrth fod yn eu cwmni. Mae TEAM i bawb, sut bynnag yr hoffai pobl gyfrannu. Drwy ffotograffiaeth y bydd rhai pobl yn gwneud hynny; eraill drwy ffilm. Efallai mai pwt o ysgrifennu neu ddarn o gelf fydd yn mynd â dy fryd. Fe allai hyn droi’n berfformiad. Fe allai fod yn hynod o breifat. Ti sydd i ddewis. Ym mhopeth y byddwn ni’n ei wneud, ein nod yw gwrando, dysgu a helpu pobl i fynegi rhai o straeon gorau Cymru sydd heb eu dweud. Weithiau, bydd pobl yn dod o hyd i yrfaoedd creadigol drwy eu profiadau gyda TEAM. Droeon eraill, byddan nhw’n rhoi’r grym newydd hwn yn ôl ar waith yn eu bywydau a’u hardaloedd lleol eu hunain. Sut bynnag y bydd hyn yn digwydd, gyda’n gilydd rydyn ni’n creu cymunedau creadigol ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae'r dudalen hon yn gweithredu fel rhwydwaith agored; lle i rannu cyfleoedd, digwyddiadau, sgiliau a gwahoddiadau, yn ogystal â chael y newyddion diweddaraf am TEAM NTW a thu hwnt. Os oes gennych chi syniad, prosiect creadigol neu ddigwyddiad rydych chi am ei rannu, neu os ydych chi'n chwilio am rywfaint o gefnogaeth gan gymuned gelfyddydau gyfeillgar, rhowch wybod i ni. Rydym yn glustiau i gyd.